Clwb Gofal Tywi

Mae Clwb Gofal Tywi yn cael ei gynnal adeg gwyliau’r haf yng Nghlwb Rygbi Llandeilo, ac mae wedi ei gofrestru ar gyfer 32 o blant. Mae’r clwb ar agor rhwng 8.30am a 5.30pm i blant 4-11 oed. Trefnir rhaglen o weithgareddau amrywiol ar gyfer y plant, megis celf a chrefft, sesiynau chwaraeon ac ymweliadau gan nifer o asiantaethau.