Mae Gofal Plant Cyf yn darparu clybiau gofal y tu allan i oriau ysgol ar gyfer plant oed cynradd ledled ardal Dinefwr. Rydym yn darparu gofal cyfrwng Cymraeg o safon uchel mewn amgylchedd diogel i blant 4-12 oed.
Sefydlwyd Gofal Plant Cyf ym mis Awst 2015 yn chwaer-gwmni i Fenter Dinefwr, sef menter iaith ac asiantaeth datblygu cymunedol ar gyfer ardal y Tywi a’r Aman.
Mae ein darpariaeth yn cynnwys un clwb brecwast a dau glwb ar ôl ysgol dyddiol yn ystod tymor ysgol, a dau glwb yn ystod gwyliau’r haf. Mae 5 o’r clybiau’n gofrestredig gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, ac yn cael eu harchwilio’n aml.