Cynhelir dau glwb dyddiol yn ystod tymor ysgol yn Ysgol Gymraeg Teilo Sant Llandeilo, sef clwb brecwast rhwng 8.00am a 9.00am a chlwb ar ôl ysgol rhwng 3.15pm a 6.00pm. Pris sesiwn yn y clwb brecwast yw £3 a £8.50 yw pris sesiwn yn y clwb ar ôl ysgol.
Mae’r ddau glwb wedi eu cofrestru ar gyfer 36 o blant ac maent wedi eu cofrestru’n llawn gydag Arolygiaeth Gofal Cymru. Arweinydd y clwb yw Nerys Howell, ac mae’n arwain tîm proffesiynol o staff sy’n gymwys ac yn frwdfrydig yn y maes.