Clwb Gofal Ysgol Gymraeg Rhydaman

Cynhelir clwb ar ôl ysgol dyddiol yn ystod tymor ysgol yn Ysgol Gymraeg Rhydaman rhwng 3.30pm a 5.29pm. Mae lle i 32 o blant yn y clwb a phris sesiwn yw £7. Nid yw’r clwb wedi cael ei gofrestru oherwydd bod y sesiynau’n para llai na dwy awr y dydd, ond mae’n cael ei redeg i’r un safonau uchel â’r clybiau eraill, ac mae’n cael archwiliadau mewnol yn aml.

Sarah Thomas yw arweinydd y clwb, ac mae’n arwain tîm proffesiynol o staff sy’n gymwys ac yn frwdfrydig yn y maes.